Aethon ni am dro dydd Sadwrn diwetha'. Doedden ni ddim wedi bod i'r arfordir am dipyn, oherwydd y torfeydd o dwristiaid. Felly, aethon ni i Fairbourne. Mi wnaethon ni barcio'r car yn y maes parcio Morfa Mawddach a cherdded ar hyd y llwybr i Fairbourne.
Roedd y tywydd yn braf, yn enwedig am Fis Hydref. Ar y daith cerdded yn ôl i'r maes parcio, mi weles i ddefaid ar y morfa heli.
#Defaidodon #SheepOfMastodon